P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Callum Rogers, ar ôl casglu cyfanswm o 685 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddod â'r anghydraddoldeb i ben o ran mynediad at driniaeth thrombectomi strôc sy'n achub bywydau.
Mae thrombectomi yn driniaeth a ddefnyddir ar gyfer strôc isgemig lle caiff y ceulad gwaed ei dynnu gyda dyfais arbennig wedi'i osod drwy gathetr. Mae cyfoeth o dystiolaeth sy'n cefnogi ei fanteision o ran lleihau anabledd hirdymor (morbidrwydd), ac achub bywydau (lleihau marwolaethau). Ym mis Ebrill 2017, cytunodd y GIG yn Lloegr i ariannu thrombectomi ar y GIG, bydd yn cymryd blynyddoedd lawer cyn y gall pob claf cymwys ei gael. Nid yw ar gael yn arferol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae cytundebau gyda'r GIG yn Lloegr i gleifion Cymru gael mynediad i'w gwasanaethau yn amrywiol ac yn denau.
Mae cleifion fel Colin Rogers (www.justgiving.com/crowdfunding/Colin-rogers-campaign) yn llythrennol yn marw. Roedd yn 55 oed pan fu farw. Gwrthodwyd triniaeth iddo am ei fod yn ddydd Sul ac nid oedd cytundeb i ganiatáu iddo gael ei anfon i Loegr. Er nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai wedi cael ei achub, amcangyfrifir y gallai'r driniaeth hon helpu dros 500 o bobl yng Nghymru. Nid ydym am i bobl y gellid eu hachub farw fel Colin, neu eu gadael ag anableddau dwys.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r loteri cod post i ben a gweithredu i achub bywydau pobl yng Nghymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Cwm Cynon
· Canol De Cymru